P-03-219 Fferyllfeydd yn y Barri
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i achub ein fferyllfeydd stryd fawr leol. Ein bwriad, wrth gyflwyno’r ddeiseb hon, yw dangos anghysonderau cyfredol y system bresennol o ‘gymdogaethau’ fel ag y maent mewn perthynas ag ail-leoli fferyllfeydd yng Nghymru.
Ni chaniateir i unrhyw fferyllfa ail-leoli ar raddfa fach fel y diffinnir yn Rheoliadau Fferyllfeydd 1992 oni bai ei bod o fewn y gymdogaeth a ddiffinnir.
Linc i’r ddeiseb:http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=889
Cynigwyd gan:Aneurin Evans Chemists Ltd. a Judith Evans Pharmacies
Nifer y llofnodion: 3,000+
Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar:23 Mehefin, 6 Hydref a 8 Rhagfyr 2009; 1 Chwefror, 23 Mawrth a 27 Ebrill 2010; a 8 Chwefror a 15 Mawrth, 12 Gorffenaf 2011.
Y wybodaeth ddiweddaraf:Cafwyd gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.